Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Mawrth 2020
Amser:
09.03 -
11.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5983
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Siân Gwenllian AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Athro Kent Matthews, Ysgol Fusnes Caerdydd Dr Long Zhou, Ysgol Fusnes Caerdydd Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Anna Adams, Llywodraeth Cymru Tom Nicholls, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Georgina Owen (Ail Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: yr Athro Kent Matthews, athro bancio a chyllid Syr Julian Hodge, Ysgol Fusnes Caerdydd; a Dr Long Zhou, myfyriwr ymchwil, Ysgol Fusnes Caerdydd.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Anna Adams, dirprwy gyfarwyddwr, pennaeth polisi strategaeth treth ac ymgysylltu, Llywodraeth Cymru; a Tom Nicholls, cynghorydd economaidd, Llywodraeth Cymru.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion ynghylch nifer y rhai a gyflogir yn y sector cyhoeddus sy'n talu’r gyfradd uwch o dreth incwm yng Nghymru.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.